Pwy sy’n defnyddio LibreOffice?

Mae degau o filiynau o bobl ledled y byd yn defnyddio LibreOffice bob dydd, mewn cartrefi, busnesau, elusennau ac adrannau’r llywodraeth. Mae rhai defnyddwyr nodedig yn cynnwys:

Mae MIMO, grŵp gweithio rhyng-weinidogol Ffrainc ar feddalwedd rydd, yn rhedeg LibreOffice ar bron i 500,000 o gyfrifiaduron personol. Mae’r feddalwedd yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o adrannau gan gynnwys ynni, amddiffyn, amaethyddiaeth ac addysg. Gweler yma am fwy o ddefnyddwyr yn Ffrainc.

Mae gweinyddiaeth rhanbarth ymreolaethol Sbaenaidd Valencia wedi gosod LibreOffice ar 120,000 o gyfrifiaduron personol. Mae hyn wedi rhoi annibyniaeth gwerthwyr TG i’r weinyddiaeth ac wedi lleihau gwariant ar drwyddedau meddalwedd perchnogol.

Mae Weinyddiaeth Amddiffyn yr Eidal yn newid i LibreOffice a’r Fformat Dogfen Agored (ODF) ar dros 100,000 o gyfrifiaduron. Mae’r Weinyddiaeth yn datblygu cyrsiau ar-lein i helpu gyda’r newid i LibreOffice.

Mae Weinyddiaeth Gyllid Taiwan wedi gosod LibreOffice ar dros 24,000 o gyfrifiaduron personol, gyda’r Fformat Dogfen Agored safonol yn dod yn norm ar gyfer cyfnewid data yn yr amrywiol adrannau.

Ym Mrasil, cyfnewidiodd yr UNESP - Universidade Estadual Paulista, fwy na 10,000 o gyfrifiaduron personol i LibreOffice. Mae hyn yn rhan o fudo mwy tuag at feddalwedd ffynhonnell agored a rhydd (FOSS) gan gynnwys y system weithredu GNU / Linux.

Mae llawer o gwmnïau, ysgolion a sefydliadau eraill yn y Weriniaeth Tsiec yn defnyddio LibreOffice - gweler yma am fwy o fanylion.

Gall busnesau sy’n defnyddio LibreOffice gael fersiynau cymorth hirdymor a gwasanaethau gwerth ychwanegol gan ein partneriaid ecosystem. Os ydych chi’n ddefnyddiwr cartref neu swyddfa fach, lawrlwythwch LibreOffice heddiw ac ymunwch â’r nifer cynyddol o ddefnyddwyr sy’n gwneud eu gwaith gyda ffynhonnell agored a safonau agored.